Datganiad hygyrchedd ar gyfer y gwasanaeth ‘Dod o hyd i lys neu dribiwnlys’
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i gynnwys a gyhoeddir ar www.find-court-tribunal.service.gov.uk/?lng=cy
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM sy’n gyfrifol am y wefan hon. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon, felly rydym wedi ceisio ei gwneud mor hygyrch â phosibl. Er enghraifft, golyga hyn y dylech allu:
- newid y lliwiau, y lefelau cyferbyniad a’r ffontiau neu gosodiadau’r dyfais
- gwneud y testun hyd at 400% yn fwy heb iddo ddiflannu oddi ar y sgrin
- mynd drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- mynd drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau ein bod wedi defnyddio iaith syml ar y wefan.
Mae gan AbilityNet gyngor ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Mae'r gwasanaeth yn defnyddio arddulliau, patrymau ac elfennau cyffredin o System Ddylunio GOV.UK, sy'n cael eu hystyried yn gyffredinol fel bod yn hygyrch.
Nid yw cyfeiriadau URL mewn testun plaen yn ddolenni rhyngweithiol
Mae rhai tudalennau yn dangos cyfeiriadau gwe fel testun plaen o fewn tudalennau yn hytrach na fel dolenni rhyngweithiol y gellir clicio arnynt. Gall hyn ei gwneud hi'n anoddach i rai grwpiau o ddefnyddwyr lywio tudalennau.
Er bod posib copïo a gludo testun URL i mewn i far chwilio trwy ddefnyddio bysellfwrdd, mae'n golygu defnyddio sawl llwybr byr na fydd efallai pob defnyddiwr yn gyfarwydd â nhw neu'n gallu eu defnyddio'n hawdd - yn enwedig unigolion gyda:
- Namau motor (rheolaeth fanwl dros Shift + saethau)
- Defnyddwyr darllenydd sgrin (efallai na fyddant yn gallu “dewis” testun nad ydynt yn gallu gweld)
- Namau gwybyddol (methu cofio sawl cam wrth ddefnyddio bysellfwrdd)
Rydym yn cydnabod bod hyn yn lleihau'n anghymesur gallu rhai defnyddwyr i gyrchu'r dudalen. Rydym yn cynllunio i ddatrys y broblem hon mewn diweddariad sydd ar y gweill - bydd hwn ond yn cynnwys dolenni sy'n gwbl rhyngweithiol.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os ydych angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat arall megis ar ffurf PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd ei ddarllen neu recordiad sain neu Braille:
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.
Riportio problemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym wastad yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn canfod unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u cynnwys ar y dudalen hon, neu’n credu nad ydym yn bodloni’r gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â:
Y Weithdrefn Orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS) (yn agor mewn ffenest newydd).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol
Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt yr holl lysoedd a thribiwnlysoedd trwy’r gwasanaeth Dod o hyd i lys neu dribiwnlys.
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid negeseuon testun ar gyfer pobl fyddar, pobl sydd â nam ar eu clyw a phobl sydd â nam ar eu lleferydd.
Mae yna ddolenni sain yn ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar eich cyfer.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 safon AA.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn cynnal profion awtomataidd yn barhaus gan ddefnyddio Pa11y ym mhob cam o adeiladu. Rydym hefyd yn gweithio gyda thîm mewnol Canolfan Ragoriaeth Hygyrchedd GLlTEF i sicrhau ein bod yn dilyn arferion hygyrchedd gorau ac i gael cymorth gydag archwiliadau.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 3 Rhagfyr 2020. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 8 Ebrill 2025.
Cafodd y wefan hon ei harchwilio gan dîm mewnol Canolfan Ragoriaeth Hygyrchedd GLlTEF ar 6 Ionawr 2025 ar draws ystod o dechnolegau cynorthwyol ac offer awtomataidd.
Dyma ddyfyniad o’r adroddiad DAC yn esbonio eu methodoleg:
Y weithdrefn brofi:
“Mae'r gwasanaeth yn cael ei brofi gan dîm o archwilwyr a dadansoddwyr profiadol, llawer ohonynt yn unigolion anabl ac yn ddefnyddwyr technoleg addasol. Mae'r cyfuniad o adborth goddrychol gan ddefnyddwyr anabl ac archwiliadau technegol cynhwysfawr yn ein galluogi i fesur sut mae'r gwasanaeth yn perfformio'n dechnegol ac yn ymarferol, gan gynnig dimensiwn ychwanegol hanfodol i ganlyniadau ein profion na all dulliau eraill o brofi eu darparu.”
Profi gyda defnyddwyr:
“Cynhaliwyd archwiliadau hygyrchedd â llaw gan dîm o unigolion anabl, gan ddefnyddio ystod o dechnolegau addasol (caledwedd a meddalwedd a gynlluniwyd i hwyluso'r defnydd o gyfrifiaduron gan bobl ag anableddau).”
Archwilio technegol:
“Mae archwilio technegol yn cynnwys cymhwyso nifer o ddulliau archwilio technegol a safonau asesu cydymffurfiaeth. Mae hyn, ynghyd â gwybodaeth helaeth am WCAG, y broses o’i roi ar waith ac ymarfer byd-eang ehangach, yn rhoi hygrededd ac ansawdd pellach i wefan DAC.”